Neges merch Phillip Hill (Ben Birchall PA)
Fe lwyddodd yr apêl i godi arian at deuluoedd glowyr Tarenni Gleision i godi £20,000 yn y diwrnod cynta’.

Fe ddaeth y newydd ar neges trydar gan yr AS lleol, Peter Hain, sydd wedi sefydlu’r gronfa.

Heddiw, fe fydd gweddïau’n cael eu dweud mewn capeli ac eglwysi ar hyd a lled Cymru i gofio am y pedwar a fu farw mewn cwymp a llifogydd o dan ddaear.

Blodau a negeseuon

Mae blodau a negeseuon bellach yn cael eu gadael wrth safle’r pwll ger Cilbebyll yng Nghwm Tawe a’r rheiny’n cynnwys teyrngedau gan y teuluoedd.

Roedd un gan Kyla, merch Phillip Hill, 45 oed, yr unig un o’r pedwar oedd yn dod o Gastell Nedd.

“Hi dad, love and miss you forever,” meddai’r neges. “Love you all the money in the world and in America.”

Fe ddaeth yn amlwg mai Phillip Hill oedd y trydydd i’w gael yn farw yn y pwll ddydd Gwener, ddiwrnod ar ôl y cwymp a arweiniodd at y llifogydd.

Y cynta’ oedd yr ieuenga’, Garry Jenkins, 39 oed, a’r ail oedd David ‘Dai Bull’ Powell, 50. Roedden nhw a’r ola’ i’w ffeindio, Charles Breslin, 62, yn dod o Gwm Tawe.

Yr ymchwiliad wedi dechrau

Mae’r heddlu a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch bellach wedi dechrau ymchwilio i’r trychineb ac mae’r Llywodraeth wedi addo y bydd gwersi’n cael eu dysgu.

“Wrth i’r teuluoedd alaru am eu hanwyliaid, fe fyddwn ni’n gwneud popeth allwn ni i’w cefnogi, i ddysgu beth achosodd y digwyddiad ofnadwy yma ac i ddysgu gwersi at y dyfodol,” meddai Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan.