Y nofelydd, Manon Steffan Ros, ydi enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni.
Yn hanu o bentref Rhiwlas ger Bangor, mae’r awdures bellach yn byw yn Pennal ger Machynlleth, ac mae wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau. Mae hi hefyd yn golofnydd i gylchgrawn Golwg ac yn gyn-enillydd Gwobr Tir na n-Og am waith i blant a phobol ifanc.
Llyfr Glas Nebo ydi enw’r gyfrol fuddugol, sy’n trafod yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru yn dilyn damwain niwclear.
Mae’r darn yn cynnig darlun o ogledd Cymru yn sgil ffrwydrad niwclear, ac wedi’i sgwennu o safbwynt bachgen a’i fam.
Mae beirniaid y wobr, Sonia Edwards, Menna Baines a Manon Rhys, wedi llongyfarch y darn buddugol am ei “anwyldeb a’i theyrngarwch”.
“Fedrwn ni ddim rhoi’r gorau i ddarllen y nofel hon ac es i drwyddi ar un eisteddiad,” meddai un o’r beirniaid, Sonia Edwards, am y gwaith.
“A doeddwn ddim i ddim isio iddi orffen. Ond erbyn meddwl doedd hynny ddim yn ormod o loes, oherwydd mi arhosodd hefo fi’n hir. Dyna’r argraff a gafodd ar fy nghyd feirniaid yn ogystal.