Bydd canolfan Techniquest yng Nghaerdydd yn derbyn £3m gan Lywodraeth Prydain.

Mae’r ganolfan ym Mae Caerdydd ymhlith chwe chanolfan wyddonol ledled y Deyrnas Unedig a fydd yn derbyn cyfanswm o £13m rhyngddyn nhw er mwyn annog mwy o bobol i ymddiddori mewn gwyddoniaeth.

Bydd Techniquest yn derbyn y £3m ychwanegol ar ôl cyflwyno cynlluniau ar gyfer cysylltu â chynulleidfaoedd a chymunedau sydd ddim fynychaf yn ymweld â chanolfannau gwyddonol.

Y nod yw moderneiddio’r ganolfan, gan sicrhau bod yna ddeunydd mathemategol, technolegol a pheirianyddol newydd ar gael.

Bydd y deunydd newydd yn cael ei gynhyrchu mewn partneriaeth rhwng arbenigwyr, busnesau a chymunedau yng Nghymru.

“Hwb”

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn hwb i’r nifer o ganolfannau gwyddonol sydd ledled y Deyrnas Unedig, a dw i’n methu â meddwl am well dderbynnydd na Techniquest ym Mae Caerdydd,” meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns.

“Mae’r ganolfan yn gartref i nifer o atgofion hapus i blant ac oedolion yn ne Cymru ac ymhellach, a oedd o bosib yn cymryd diddordeb mewn gwyddoniaeth a thechnoleg am y tro cyntaf.

“Bydd y nawdd hwn yn golygu bod Techniquest yn gallu camu i’r dyfodol trwy ddatblygu technoleg STEM arloesol, gan ddenu rhai o feddylwyr gwyddonol craff Cymru i arwain y ffordd mewn datblygu ein cymunedau ar gyfer y dyfodol.”