Y gwaith chwilio ger Pwll Tarenni Gleision
Mae un o berchnogion pwll Tarenni Gleision yng Nghwm Tawe’n dweud ei bod mewn gormod o drallod i allu dweud dim am y trychineb a laddodd bedwar o lowyr.

O’u cartref ym Mhort Talbot, fe ddywedodd ei  gwr, Chris Seage, wrth Golwg 360 bod eu meddyliau gyda’r teuluoedd ac na allen nhw hyd yn oed feddwl am ddweud dim arall.

Roedd yn siarad ar ran ei wraig, Maria Nora Seage, 61, un o ddau gyfarwyddwr ar gwmni MNS Mining perchnogion y gwaith ger Cilybebyll.

A’i lais yn dangos effeithiau sioc, fe ddywedodd hefyd eu bod eisiau canmol y gweithwyr achub am eu hymdrechion ond eu bod eisiau amser i ystyried.

“Fe fyddwn ni’n gwneud datganiad rywdro ond ar hyn o bryd r’yn ni dan ormod o deimlad i allu dweud dim,” meddai.

Y cefndir

Mae swyddfa MNS Mining hefyd ym Mhort Talbot ac, yn ôl Tŷ’r Cwmnïau, yr unig gyfarwyddwr arall yw Gerald Ward, 47, oed o’r dref.

Roedd y cwmni wedi ei ymgorffori ym mis Gorffennaf 2009 ac mae Chris a Maria Seage hefyd yn gyfarwyddwyr ar gwmni arall o’r enw Avid Site Services.