Canolfan Arloesi Bae Baglan
Fe allai deunyddiau newydd sy’n cael eu datblygu yng Nghymru arwain at gynhyrchu traean o holl ynni gwyrdd y Deyrnas Unedig o fewn llai na deng mlynedd.

Dyna’r honiad wrth i bartneriaeth SPECIFIC dynnu sylw at y cynnyrch mewn arddangosfa dechnoleg yng Nghaerdydd. Fe fyddai’r datblygiad yn cyrraedd y targed, medden nhw, erbyn 2020.

Maen nhw’n datblygu deunyddiau dur a gwydr a fydd yn cael eu defnyddio mewn adeiladau ac a fydd hefyd yn cynhyrchu, storio a darparu trydan.

Maen nhw hefyd yn hawlio y byddai’r deunyddiau newydd yn arbed gwerth 6 miliwn tunnell o garbon deuocsid.

‘Cymru ar y blaen’

Mae’r cynllun pum mlynedd yn costio £20 miliwn yn cynnwys prifysgolion Bangor, Caerdydd a Glyndŵr ymhlith eraill. Mae nifer o gwmnïau preifat hefyd yn rhan o’r bartneriaeth a Llywodraeth Cymru’n cyfrannu £2 filiwn.

“Mae’r prosiect yn arwyddocaol oherwydd fod ganddo botensial gwirioneddol i gynnig buddiannau tymor hir i’r economi a hefyd oherwydd ei fod wedi denu cyllid ymchwil sylweddol,” meddai’r Gweinidog Busnes, Edwina Hart.

“Mae’n gosod Cymru ar y blaen yn y datblygiadau cyffrous iawn yma.”