Mae dyn mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty, ar ôl i’r heddlu cael hyd iddo yn ardal Storey Arms nos Wener.

Cafodd yr heddlu eu hysbysu am 11.45 nos Wener ei fod e wedi gadael ardal y Gelli Gandryll mewn car, ac fe gafodd ei stopio yn ddiweddarach ar yr A470.

Roedd angen triniaeth feddygol ar y dyn, ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae’r mater bellach yn nwylo Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.

Mae’r A470 ynghau yn yr ardal am y tro.