Cyhoeddwyd heno bod y pedwar glöwr oedd wedi eu caethiwo yng Nglofa Gleision wedi eu canfod yn farw.

Cafodd Phillip Hill, 45, Charles Breslin, 62, David Powell, 50, a Garry Jenkins, 39, eu caethiwo yng Nglofa Gleision ger Abertawe fore ddoe.

Erbyn hyn mae’r gwasanaethau achub wedi cadarnhau bod pob un wedi marw.

Cafodd y corff cyntaf ei ddarganfod ar waelod y brif siafft yn yr oriau mân y bore yma.

Yna, am 12:15 darganfuwyd ail gorff yn agos i’r ardal lle’r oedd y dynion wedi bod yn gweithio.

Tua 3:00 y prynhawn yma cyhoeddwyd bod trydydd corff wedi ei ddarganfod, cyn i gadarnhad gyrraedd am 6:00 bod y pedwar wedi eu darganfod yn farw.

‘Meddwl bod y dyddiau hyn tu ôl i ni’

Gwnaed y datganiad roedd pawb wedi bod yn ofni gan y Prif Gwnstabl Peter Vaughan, gyda Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wrth ei ochr.

“Roedden ni’n meddwl bod y dyddiau hyn y tu ôl i ni” meddai Carwyn Jones ar raglen newyddion y BBC heno.

“Roedd yn edrych yn addawol ar un pryd heddiw ond nawr mae’r newyddion gwaethaf posib wedi’i gadarnhau”

“Mae’n deg dweud bod y byd yn sefyll wrth ochr y teuluoedd yma heno, tydi hynny ddim yn gor-ddweud.”

“Gobeithio bod hynny’n rhyw fath o gysur iddyn nhw ond rydym ni’n gwybod bod amser caled o’u blaen.”

Rhaglen newyddion arbennig ar S4C heno

Mae rhaglen Newyddion hanner awr o hyd wedi ei hychwanegu at amserlen S4C am 21:00 heno oherwydd y drychineb yng Nglofa Gleision.

Bydd rhaglen Newyddion am 19:30 hefyd yn canolbwyntio ar y drychineb.