Mae swyddogion yn dal i ymladd tân eithin yn Sir Ddinbych ar ôl cael eu galw yno dros wythnos yn ôl.

Mae criwiau tân yn parhau i geisio cael y fflamau o dan reolaeth ar Fynydd Llantysilio ger Llangollen, ar ôl i’r tân ailgydio yn ystod y prynhawn ddoe oherwydd y gwynt.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, mae 12 injan dân ar y safle ar hyn o bryd, gyda swyddogion yn gorfod delio â’r tân mewn “cyflyrau anodd”.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi bod ffordd yr A542 trwy Fwlch yr Oernant ynghau o ganlyniad i’r tân.

Maen nhw hefyd yn dweud bod pobol sy’n tynnu lluniau wedi bod yn achosi problemau i griwiau tân, ac maen nhw’n cynghori’r cyhoedd i gadw draw o’r ardal.