Fe fydd y tri Parc Cenedlaethol yng Nghymru yn derbyn yr un faint o gyllid â’r llynedd, y flwyddyn nesaf, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Yn ôl Gweinidog yr Amgylchedd yn y Cynulliad, Hannah Blythyn, mae hi wedi penderfynu gwrthdroi’r toriadau yr oedd cyllideb Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yn eu hwynebu.
Mae’r cyhoeddiad hwn felly yn golygu y bydd £1.5m yn ychwanegol ar gael dros y ddwy flynedd nesa’ ar gyfer Parciau Cenedlaethol Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Sir Benfro.
Mae Hannah Blythyn hefyd wedi dyrannu £3.4m i’r Parciau Cenedlaethol a’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNEoedd).
Mae’r cyllid hwn ar gyfer cefnogi amrywiaeth o brosiectau ychwanegol, gan gynnwys gwella mynediad, hyrwyddo cadwraeth ac adfywio rhai o’r ardaloedd mwya’ bregus.
“Parhau’n ymrwymedig”
“Mae ein Hardaloedd trawiadol o Harddwch Naturiol Eithriadol a’n Parciau Cenedlaethol yn chwarae rhan hanfodol o ran sicrhau ecosystemau cyfoethog a chymunedau cryf a ffyniannus ac maen nhw hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd hamdden,” meddai Hannah Blythyn.
“Mae’r cyhoeddiad hwn yn tystio i’r ffaith fy mod yn parhau’n ymrwymedig i sicrhau bod y tirweddau dynodedig a’u cymunedau’n parhau i ffynnu ac i lwyddo.”