Mae dau fwrdd iechyd wedi’u beirniadu am ganiatáu bron i dair blynedd o oedi “diangen” gydag achos claf 11 blwydd oed.
Roedd y claf – claf “C” – wedi bod yn aros am lawdriniaeth i dynnu aren, ac er i feddygon ganfod problem ar ei organ yn 2014, bu’n rhaid iddo aros tan 2017 am ei driniaeth.
Mewn adroddiad sydd wedi’i rhyddhau heddiw mae Ombwdsmon Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru wedi cynnig beirniadaeth lem o fyrddau iechyd, Hywel Dda a Chaerdydd a’r Fro.
“Dyma gyfres o ddigwyddiadau syfrdanol lle nad oedd plentyn 11 mlwydd oed yn gallu ffynnu am bron i dair blynedd oherwydd oedi hollol annerbyniol,” meddai Nick Bennett.
“Mae wedi bod yn brofiad ofnadwy i’r bachgen ifanc hwn a’i deulu ac mae’n debygol fod ei hawliau dynol wedi cael ei gyfaddawdu oherwydd yr effaith ar ei les corfforol a meddyliol, gan gynnwys maint y dioddefaint y mae wedi ei ddioddef.”
Yr oedi
Cafodd claf C ei dderbyn i Ysbyty Cyffredin Glangwili yng Nghaerfyrddin ym mis Mehefin 2014, ac aeth meddygon ati i drin â phoced o rawn yn ei abdomen.
Yn ystod yr un mis, datgelodd sgan MRI bod yna broblem ar ei aren chwith, ac ar ôl cynnal sgan arall mi sylweddolodd meddygon nad oedd yr aren honno yn gweithio.
Ar ôl atgyfeiriad i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, cafodd ei lawdriniaeth ym mis Mai 2017.
Tra’r oedd ef yn aros am ei lawdriniaeth, mae’n debyg yr oedd Claf C yn dioddef “heintiadau difrifol yn aml” a bu’n rhaid iddo ddelio â chlwyf agored ar ei ochr.
“Daeth ei fywyd i stop” meddai, ac mae’n debyg nad oedd y claf yn medru cymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol.
Ymddiheuro
“Fel Bwrdd Iechyd, hoffwn ymddiheuro o waelod ein calon i’r claf a’i deulu am y cyfyngder y maen nhw wedi ei brofi,” meddai Ruth Walker, Cyfarwyddwr Nyrsys Gweithredol Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.
“Mae diogelwch ein cleifion yn hollbwysig, ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth saff ac effeithlon, er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau i’n cleifion.”
Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn ymateb
“Ni yw’r bwrdd iechyd a wnaeth gyfeirio’r claf, ac rydym yn derbyn canfyddiadau’r Ombwdsmon,” meddai llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
“Hoffwn ymddiheuro am y methiannau ynghylch triniaeth y claf, a gafodd eu nodi. Mae diogelwch cleifion yn bwysig iawn i ni, a byddwn yn gwireddu’r argymhellion sydd wedi’u nodi.”