Mae Comisiwn y Cynulliad yn bwriadu newid y ffordd y mae’r sefydliad yn cael ei redeg – ac mae newydd gyhoeddi rhan gyntaf y newidiadau heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 18).
Y newid cyntaf yw newid enw’r sefydliad o ‘Cynulliad Cenedlaethol Cymru’ i ‘Senedd Cymru’.
Ac fel rhan o’r cam cyntaf, mae’r Comisiwn yn bwriadu gostwng oedran pleidleisio i 16 oed.
Maint y Cynulliad (nifer yr Aelodau) sydd dan sylw yn yr ail gam, yn ogystal â pha system a gaiff ei defnyddio i ethol Aelodau.
Bydd y newidiadau arfaethedig yn cael eu trafod dros y misoedd nesaf ym Mae Caerdydd, er mwyn gallu gwneud penderfyniad cyn etholiadau nesa’r Cynulliad yn 2021.
Canlyniadau ymgynghoriad y Comisiwn
Mae crynodeb hefyd wedi’i gyhoeddi o ganlyniadau allweddol ymgynghoriad cyhoeddus Comisiwn y Cynulliad, Creu Senedd i Gymru.
Daeth yr ymgynghoriad o dan gadeiryddiaeth yr Athro Laura McAllister i ben ar Ebrill 6 eleni, ar ôl gofyn am farn pobol Cymru ar ystod o gynigion i ddiwygio’r drefn etholiadol a’r sefydliad ar y cyfan.
Argymhellion panel yr ymgynghoriad
Fe wnaeth y panel oedd yn gyfrifol am yr ymgynghoriad awgrymu y dylid gostwng yr oedran pleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad i 16 oed.
Roedd 59% o’r 1,530 o ymatebion i’r cwestiwn hwn yn cytuno.
Mae’r Comisiwn yn bwriadu gostwng yr oedran pleidleisio cyn etholiadau 2021, flwyddyn ar ôl newid enw’r sefydliad i Senedd Cymru.
Nifer yr Aelodau Cynulliad
Mae’r panel hefyd wedi gwneud argymhellion ynghylch nifer yr Aelodau Cynulliad a sut y dylid eu hethol.
Roedd 56% o’r ymatebion o blaid cael mwy o Aelodau Cynulliad, tra bod 95% yn dweud mai rhwng 80 a 90 yw’r nifer ddelfrydol.
Roedd 54% o blaid y system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy er mwyn ethol Aelodau’r Cynulliad.
Aelodau yn rhannu swydd?
Roedd y rhan fwyaf o ymatebion i’r ymgynghoriad yn erbyn galluogi Aelodau’r Cynulliad i rannu swydd – dim ond 48% oedd o blaid.
Dywedodd y panel fod “nifer o ffactorau sy’n gwneud hwn yn syniad deniadol”, ond “nid oes digon o gefnogaeth i’r cynnig hwn ar hyn o bryd”.
Yn ôl y panel, mae yna amheuaeth a oes gan y Cynulliad y cymhwysedd deddfwriaethol i wneud yr holl newidiadau sydd eu hangen i weithredu’r polisi – yn enwedig galluogi Aelod sy’n rhannu swydd i ddod yn Weinidog neu’n Ysgrifennydd Cabinet.