Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg yn galw am ehangu’n sylweddol y cynllun cyllid cyfalaf er mwyn buddsoddi mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Fe ddaeth i’r amlwg drwy gais y mudiad am wybodaeth fod awdurdodau lleol wedi cyflwyno ceisiadau am gyllid sydd dair gwaith yn uwch na’r swm sydd ar gael.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar Chwefror 8 fod £30m o gyllid cyfalaf ar gael ar gyfer addysg Gymraeg, a hynny er mwyn sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael i fwy o ddisgyblion fel rhan o’r nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae’r 22 awdurdod lleol wedi gwneud cais am gyfanswm o £103 miliwn – a’r symiau’n amrywio o £0.64m gan Ynys Môn i £14.03m gan Gastell-nedd Port Talbot.
Fe fydd penderfyniad yn cael ei wneud ar sut i ddosbarthu’r arian yn yr hydref.
‘Y galw yn gwbwl ddiamheuol’
Yn ôl cadeirydd cenedlaethol Rhieni dros Addysg Gymraeg, Wyn Williams, mae’r galw am addysg Gymraeg “yn gwbwl ddiamheuol”.
“Mae’n debyg bod yr ymateb wedi bod mor uchel oherwydd nad oedd rhaid canfod arian cyfatebol, rhwystr sydd wedi llesteirio sawl sir rhag gweithredu cyn hyn,” meddai.
“Mae’r galw yn gwbwl ddiamheuol, ac yn profi bod yr ewyllys i weithredu yn bodoli os oes digon o gefnogaeth ar gael.
“Os yw’r Llywodraeth o ddifrif am weld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n rhaid rhoi rhaglen o dwf cyflym ar waith ac mae sicrhau cyllid digonol i wireddu hynny yn gwbwl allweddol.
“Galwn ar y Llywodraeth, felly, i gynyddu’r cyllid sydd ar gael er mwyn galluogi’r siroedd i wireddu’r holl brosiectau cyffrous sydd wedi eu cyflwyno.”