Mae elusen wedi galw ar rieni i fod yn wyliadwrus, wedi iddyn nhw ddarganfod bod ‘teganau llysnafedd’ – sleim – â gormod o gemegau ynddyn nhw.
 ‘theganau llysnafedd’ yn dod yn fwyfwy poblogaidd ymhlith plant, mae elusen Which? wedi darganfod bod gormod o ‘foron’ mewn rhai o’r nwyddau yma.
‘Boron’ sy’n sicrhau bod gan y llysnafedd wead gludiog, ac mae’r Undeb Ewropeaidd yn awgrymu na ddylai unrhyw degan gynnwys dros 300mg/kg ohono.
Ond, mi aeth Which? ati i ymchwilio i lefelau teganau sydd ar y farchnad, gan ddarganfod bod mwyafrif gyda lefel y maen nhw’n ei ystyried yn beryglus.
Bellach mae’r elusen wedi galw am “newidiadau radical” i sicrhau nad yw teganau â lefelau uchel o ‘foron’ yn cael eu gwerthu i blant.
“Peryglu iechyd”
“Dylai bod rhieni yn medru prynu llysnafedd i’w plant heb orfod poeni,” meddai Nikki Stopford, Cyfarwyddwr Ymchwil Which?.
“Ond mi fyddan nhw’n synnu i glywed bod y llysnafedd yma yn peryglu iechyd eu plant. Rhaid cyflwyno newidiadau radical i’r sustem diogelwch nwyddau.”