Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi “croeso gofalus” i Bapur Gwyn Llywodraeth Prydain ar Brexit.
Er bod Llywodraeth yr Alban wedi dweud y byddai’r cynlluniau yn niweidiol i’r economi, mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud bod y fframwaith yn agosáu at ddyheadau ei lywodraeth.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau wrth golwg360 nad oedd wedi cael gweld y papur tan 1.30yp, a hynny er i’r Ysgrifennydd Brexit newydd, Dominic Raab, ddweud bod y llywodraethau datganoledig wedi cael y papur ers cyn cinio.
“Mae Papur Gwyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn newid cyfeiriad sylweddol sy’n symud oddi wrth eu llinellau coch tuag at drafod y sefyllfa a nodwyd gennym ni ym mis Ionawr y llynedd,” meddai Carwyn Jones yn ei ymateb.
“Mae’n drueni bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig, unwaith eto, wedi gorfod cael ei llusgo’n cicio a sgrechian at y dull synhwyrol yma o weithredu, ond rhaid croesawu’r cam heddiw yn ofalus o leiaf.”
Y Papur Gwyn
Cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei Phapur Gwyn ar Brexit i Aelodau Seneddol y prynhawn yma.
Mae fframwaith Theresa May yn ystyried cael “llyfr rheolau cyffredin” dros fasnachu rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.
Dan y cynlluniau, byddai rhyddid i symud rhwng gwledydd Prydain a gweddill Ewrop yn dod i ben, gyda rheolau newydd yn galluogi teithiau heb fisa ar gyfer twristiaeth a gwaith dros dro.
Mae’r Papur Gwyn hefyd yn nodi y byddai’r Deyrnas Unedig yn parhau i gydweithio gydag Ewrop ar ddiogelwch, gan gymryd rhan yn Europol ac asiantaethau eraill yn yr Undeb Ewropeaidd.
“Anweithredol” meddai Carwyn Jones
Wrth ychwanegu at ei ymateb, dywedodd Carwyn Jones fod cwestiynau i’w hateb o hyd a bod rhai polisïau ar fasnachu y tu allan i’r Farchnad Sengl, sy’n cael eu hawgrymu yn rhy fiwrocrataidd.
“Fodd bynnag, mae gormod o gwestiynau heb eu hateb o hyd ac mae’n ymddangos nad yw rhai cynigion – fel systemau tollau dau lwybr – yn bosib eu gweithredu.
“Nid wyf yn gallu gweld pam mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dewis mynd ar ôl dull rhy fiwrocrataidd a thrwsgl o weithredu gyda masnach, pan fyddai parhau i fod yn rhan o’r Farchnad Sengl a’r undeb tollau’n datrys y materion hyn, yn gwarchod swyddi, masnach a buddsoddiad, ac yn rhoi’r sicrwydd a’r sefydlogrwydd mae’r byd busnes eu hangen.
“Byddaf yn trafod adwaith yr Undeb Ewropeaidd i’r cynigion gyda Michel Barnier pan fyddaf yn ei gyfarfod ym Mrwsel ddydd Llun.
“hefyd byddaf yn manteisio ar y cyfle i ddatgan ble rydyn ni’n credu mae angen dull hyblyg o weithredu gan yr EU27 er mwyn osgoi sefyllfa drychinebus o ‘ddim cytundeb’.”
Llywodraeth Cymru yn “naïf”
Mae Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Plaid Cymru, yn beirniadu Llywodraeth Cymru am “ymddiried” yn Llywodraeth San Steffan.
“Roedd y cytundeb rhynglywodraethol wedi’i arwyddo gan Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Lafur Cymru i fod i olygu bod penderfyniadau ar Brexit yn cael eu gwneud ar y cyd,” meddai.
“Wrth gyhoeddi’r Papur Gwyn hwn heb ymgynghori â Llywodraeth Cymru, mae San Steffan yn rhwygo’r cytundeb ar y cyfle cyntaf.
“Roedd Llywodraeth Lafur Cymru yn amlwg yn naïf i fod mor barod i ymddiried yn San Steffan.”