Mae yna dagfeydd hir o draffig wedi bod yn Llanbedr Pont Steffan heddiw (Gorffennaf 12), ar ôl i’r heddlu gau’r ffordd am ganol y dref er mwyn delio â gwrthdrawiad.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 12.20yp, ac roedd ambiwlans a cheir heddlu i’w gweld y tu ger cylchffordd yr A482/Ffordd y Bryn/ Heol yr Orsaf.
Yn ôl Heddlu Dyfed Powys, roedd dynes wedi’i tharo â char, ac yn ôl un llygad dyst, roedd golwg “welw” arni.
Mae golwg360 yn deall bod y ddynes wedi cael ei tharo wrth adael deintyddfa ger y gylchfan, a hynny gan gar a oedd yn teithio i gyfeiriad canol y dref.
Bellach mae’r ffordd wedi ail agor, ond ar un adeg rhes o geir o’r cylchffordd hyd at yr A485.