Mae “diffyg gofal” am yr heddlu sydd wedi teithio o’u lluoedd arferol er mwyn cadw’r protestiadau yn erbyn Donald Trump yn ddiogel.
Dyna farn Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru wrth ymateb i luniau o lety “annerbyniol” y swyddogion sydd wedi’u hanfon o wahanol rannau o Gymru a Lloegr i weithio yn y protestiadau.
“Diffyg gofal ofnadwy,” meddai Arfon Jones ar Twitter, ac ail-drydar erthygl yn gofyn pam ddylai’r wladwriaeth dalu am “fini-brêc” Donald Trump.
Yn ôl Ffederasiwn yr Heddlu, mae’r gost o gael cynifer o swyddogion ychwanegol hyd at £10 miliwn.
Mae dirprwy Arfon Jones, Ann Griffith, wedi dweud bod y cyfleusterau yn “annigonol” ac yn “warthus.”
“Waeth na charchar”
Mae lluniau’r llety yn dangos rhesi o welyau gwersylla yn llenwi campfa a matiau cysgu ar y llawr mewn ystafell sboncen er mwyn i swyddogion allu cael seibiant rhwng shifftiau hir o heddlua taith Arlywydd America.
Mae Ffederasiwn yr Heddlu wedi cwyno gan gymharu’r amodau’n waeth na mewn cell carchar. Yn ôl y sefydliad, mae disgwyl i 300 o swyddogion i gysgu yn y gampfa heb ddŵr cynnes a dim llawer o fwyd cynnes.
Dywedodd hefyd bod swyddogion dim ond yn cael tair i bedair awr o gwsg cyn shifft 15 awr o achos yr amodau.
Mae’r Cyngor Penaethiaid Heddlu Cenedlaethol wedi dweud bod y sefyllfa yn annerbyniol ac yn dweud bod Heddlu Essex, lle mae’r llety, yn gweithio ar frys i wella’r sefyllfa.