Bydd £15m yn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi bob blwyddyn mewn gwasanaethau gofal critigol, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i gynllunio’r ffordd mae gwasanaethau gofal critigol yng Nghymru yn cael eu darparu, trwy greu model genedlaethol o ofal ar gyfer y rheiny sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd am ddatblygu ac ehangu’r gweithlu, gwella’r system o drosglwyddo cleifion sy’n ddifrifol wael, ynghyd â chynyddu nifer y gwelyau gofal critigol.

Mi fydd grŵp arbenigol, a fydd yn cael ei gadeirio gan y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, yr Athro Chris Jones, yn datblygu’r model cenedlaethol yn goruchwylio sut mae’r cyllid yn cael ei rannu.

Gwella’r gwasanaeth

Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, mae gofal critigol yn un o’r meysydd hynny sydd wedi “profi’r taen a’r heriau sy’n wynebu’r system gyfan.”

“Y mis diwethaf, cyhoeddais ein cynllun tymor hir ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol, a oedd yn nodi sut y bydd gwasanaethau yn cael eu haddasu i wynebu heriau’r dyfodol,” meddai.

“Bydd cyllid heddiw yn ein helpu i wneud hyn o fewn gwasanaethau gofal critigol gyda gafael canolog mwy cadarn er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau cywir yn cael eu darparu yn y lle cywir ac ar yr adeg gywir er mwyn sicrhau gwasanaethau mwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.”