Mae arweinydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Rob Stewart wedi dweud y gallai prosiect Morlyn Llanw Bae Abertawe fynd yn ei flaen heb gefnogaeth ariannol Llywodraeth Prydain.
Dywedodd gweinidogion Llywodraeth Prydain yr wythnos hon fod y prosiect £1.3bn yn rhy gostus – a hynny 18 mis ar ôl cyhoeddi adroddiad yn galw am ei gymeradwyo.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, does ganddyn nhw mo’r pwerau i gamu i’r adwy.
Ond dywedodd Rob Stewart wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC fod nifer o ffyrdd dan ystyriaeth er mwyn gwthio’r cwch i’r dŵr – yn eu plith mae gwerthu’r ynni sy’n cael ei gynhyrchu.
Morlyn Llanw i arwain y ffordd
Bwriad Cyngor Abertawe oedd y byddai Morlyn Llanw Bae Abertawe’n arwain y ffordd ar gyfer nifer o brosiectau tebyg yng Nghaerdydd, Casnewydd, Bridgewater, Bae Colwyn a Swydd Cumbria.
Ond penderfynodd Llywodraeth Prydain wrthod cefnogi’r prosiect ar ôl 18 mis o drafod ac adolygiad annibynnol oedd wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Prydain.
Dywedodd Rob Stewart ei fod e wedi cyfarfod â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ddydd Mercher.
“Dw i a fe o’r un farn, sef nad yw’r cynnig ariannol presennol yn mynd i fynd yn ei flaen.
“Ond mae technoleg morlyn yn rhywbeth sydd â choesau o hyd, yn rhywbeth y mae modd ei gefnogi, ac mae’r Prif Weinidog yn awyddus i ni barhau i ymchwilio i hynny.”
Mae disgwyl i Gyngor Abertawe ymchwilio i ffyrdd o werthu’r ynni’n uniongyrchol i gwmnïau, gan gynnwys y Grid Cenedlaethol.
Ymateb cyn-bennaeth Dŵr Cymru
Mae cyn-bennaeth Dŵr Cymru wedi ategu barn Rob Stewart nad oes angen cefnogaeth ariannol Llywodraeth Prydain i fynd â’r prosiect yn ei flaen.
Dywedodd Nigel Annett wrth Sunday Politics Wales y byddai angen cytundebau ynni tymor hir gyda chwmnïau dŵr i sicrhau dyfodol y prosiect.
“Gallai’r diwydiant dŵr, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU, gael ei berswadio i brynu’r ynni ymlaen llaw, ac fe fydden ni wedyn yn defnyddio’i allu ariannol i ariannu’r prosiect hwn ar gost isel.
“Y canlyniad yn y pen draw fyddai fod cost ynni’n isel, yn is o lawer na phrisiau’r farchnad heddiw.”