Mae pobol ym Mecsico yn pleidleisio yn yr etholiad mwyaf erioed yn hanes y wlad.
Y gobaith yw y gall yr etholiad diweddaraf roi terfyn ar ddegawdau o drais, llygredd a sgandalau gwleidyddol.
Ond mae rhybudd y gallai ethol yr ymgeisydd asgell chwith, Andres Manuel Lopez Obrador fynd â’r wlad yn ôl i drafferthion y gorffennol yn sgil ei bolisi economaidd. Dyma’r trydydd tro iddo geisio ennill yr arlywyddiaeth, gyda rhai yn honni mai dyma ei awr fawr.
Mae’r holl ymgeiswyr wedi lladd ar Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump yn sgil ei bolisi ar fewnfudwyr o Fecsiso.
Polau piniwn
Yn ôl polau piniwn cynnar, mae Andres Manuel Lopez Obrador wedi sicrhau cryn dipyn o gefnogaeth, tra bod plaid yr Arlywydd amhoblogaidd, Enrique Pena Nieto ar ei hôl hi yn sgil diffyg llwyddiant yr ymgeisydd, Jose Antonio Meade i ddarbwyllo pleidleiswyr i ymddiried ynddo.
Mae ymgeisydd clymblaid rhwng y dde a’r chwith, Ricardo Anaya yn anelu i ennill pleidleisiau gan do iau’r wlad, gyda phwyslais arbennig ar dechnoleg a syniadau newydd. Ond dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd e’n llwyddo i dynnu’r ddwy asgell ynghyd.