Mae Carwyn Jones yn dweud fod penderfyniad llywodraeth Prydain i droi cefn ar gynllun morlyn llanw Abertawe yn “ergyd galed arall” i Gymru.
Yn ôl Carwyn Jones, fe ddaeth y datganiad yn Nhy’r Cyffredin ddiwedd pnawn ddoe (dydd Llun, Mehefin 25) fel siom i’r wlad ac i gymuned Abertawe.
“O’r dechrau, roedd Llywodraeth Cymru yn cydnabod potensial Morlyn Llanw Bae Abertawe,” meddai.
“Fe wnaethon ni ymrwymo i wneud popeth y gallem, er mwyn gwneud hynna’n realiti, ond yn anffodus, mae culni meddwl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a’u diffyg uchelgais llwyr, wedi tanseilio’r prosiect.”
Yn ogystal mae’r Prif Weinidog yn dweud bod yna “gwestiynau difrifol sy’n rhaid cael eu hateb gan y Swyddfa Gymreig ynglŷn â lefel y gefnogaeth maen nhw wedi cynnig i Gymru a’r prosiect yma”.