Rhaid i Gymru fynd i’r afael â’i gorddibyniaeth ar geir, yn ôl y Sefydliad Materion Cymreig (IWA).
Wrth fethu â gwneud hynny, bydd Cymru yn methu taro ei thargedau allyriadau carbon ei hun, meddai adroddiad newydd y corff.
Mae’r ddogfen yn nodi bod Cymru yn fwy dibynnol ar geir nag unrhyw ran arall o wledydd Prydain, a bod gwasanaethau bysus yn dirywio ers blynyddoedd.
Hefyd, mae’r nifer o bobol sy’n dewis teithio o le i le ar gefn beic neu trwy gerdded, wedi aros yr un peth neu wedi gostwng.
Mae yna “angen clir am newid rheoledig” i system drafnidiaeth Cymru, meddai’r IWA.
Newid “radical”
“Mae ein hymchwil yn dangos bod angen mynd i’r afael â thrafnidiaeth mewn modd newydd a radical yng Nghymru,” meddai Shea Buckland-Jones, un o gydlynwyr prosiect IWA.
“Mae gan Llywodraeth Cymru rôl canolog i’w chwarae wrth gyflwyno’r newid sydd ei angen.
“Mae’n rhaid iddyn nhw ddangos arweinyddiaeth wrth drawsffurfio sector trafnidiaeth Cymru.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.