“Diolch Abertawe” – yn Gymraeg – oedd neges y band Americanaidd The Killers ar ôl gig yn Stadiwm Liberty yn y ddinas nos Sadwrn.

Fe wnaeth y band o Las Vegas berfformio llu o’u caneuon mawr, gan gynnwys Mr. Brightside, Somebody Told Me a Human, yn ogystal â chaneuon oddi ar eu halbwm diweddaraf, Wonderful Wonderful.

Ar ddiwedd y noson, fe ddiolchodd y band i’r dorf ar eu tudalen Twitter.

Yn y neges, sy’n cynnwys llun y prif leisydd Brandon Flowers ar y llwyfan, dywed y band: “Whose coat’s that jacket? Diolch Abertawe.”

Yn cefnogi’r band yn Stadiwm Liberty roedd Juanita Stein, prif leisydd The Howling Bells sydd bellach yn perfformio ar ei phen ei hun ac sydd wedi cyd-gyfansoddi â Brandon Flowers.