Mae cyn-gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gyfun Ystalyfera yng Nghwm Tawe wedi ceisio tawelu ofnau rhieni sy’n poeni am ddyfodol yr ysgol.

Mae rhai o’r rhieni wedi ysgrifennu llythyr i’r papur lleol ac wedi ffurfio grwp ymgyrchu er mwyn diogelu dyfodol yr ysgol yn sgil cynlluniau i sefydlu ysgol Gymraeg newydd ym Mhort Talbot.

Yn y llythyr i’r Evening Post, mae’r rhieni’n dweud eu bod nhw wedi cael arddeall gan ffynhonnell ddibynadwy bod yr ysgol yn mynd i gau a bod ganddyn nhw hawl i wybod beth sy’n mynd i ddigwydd.

Ond dywedodd Glynog Davies wrth Golwg360 nad oedd sail i’r pryderon hyn: “Rydw i’n berffaith hapus bod Ysgol Ystalyfera yn ddiogel. Mae siarad wedi bod am yr ail ysgol ond d’yn ni ddim wedi cael y manylion i gyd eto felly dydw i ddim yn gweld bod sail i’r pryderon.”

Nifer yn ‘haneru’

Dywedodd cynghorydd cymunedol Ystafalyfera, Rosalyn Davies, y bydd nifer y disgyblion sy’n mynd i’r ysgol yn lleihau ond nad oedd hi chwaith yn poeni am ddyfodol yr ysgol.

“Mi fydd yr ysgol yn haneru o bosib ond rwy’n sicr y bydd yn cynyddu eto yn y blynyddoedd i ddod. Mae’r ail ysgol yn bownd o gael rhywfaint o effaith – mae fe’n ofid, ond dwi’n gobeithio bod y cyngor wedi gwneud eu gwaith cartref.”

Dywed Cyngor Castell Nedd Port Talbot eu bod nhw’n ystyried nifer o bosibiliadau a fydd yn sicrhau bod gan Ysgol Gyfun Ystalyfera gysylltiad agos â’r ysgol newydd yn hytrach na bod yn cystadlu yn ei herbyn i ddarparu addysg Gymraeg o safon.