Mi fydd adnoddau ar-lein ar gael i athrawon ac ysgolion yng Nghymru er mwyn cefnogi plant sy’n ffoaduriaid.
Mae’r pecyn ar y porth addysg ar-lein, Hwb, wedi’i gyhoeddi i gyd-fynd ag Wythnos Ffoaduriaid, a’r bwriad yw cynnig cymorth i athrawon a staff sy’n dysgu plant sydd wedi’u hailgartrefu yng Nghymru.
Mae’r adnoddau’n cynnwys pecynnau gwybodaeth sy’n rhoi cyfarwyddyd i athrawon ar wahanol faterion, fel ‘Gofal Bugeiliol a lles’ a ‘Caffael iaith’.
Y gobaith y bydd yn helpu ysgolion i wella’r dealltwriaeth am anghenion plant sy’n ffoaduriaid, gan ei wneud yn haws iddyn nhw ymgartrefu yng Nghymru.
Mae’r prosiect wedi’i greu gan adran o Gymdeithas Lywodraeth Leol Cymru sy’n delio â mewnfudo, a hynny ar y cyd â Gwasanaethau Lleiafrifoedd Ethnig Gwent (GEMS).
‘Ehangu ein dealltwriaeth’
“Mae’n anodd dychmygu’r pen a’r ansicrwydd a brofir, yn enwedig gan blant wrth iddyn nhw adael eu mamwlad i gael eu hailgartrefu miloedd o filltiroedd i fwrdd a chychwyn o’r newydd,” meddai llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
“Ond wrth ehangu ein dealltwriaeth o’u hamgylchiadau a’u hanghenion, gallwn ni helpu i wneud y newid hynny ychydig yn haws i’r plant yma.”