Mi fydd £30m yn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi yn y Gwasanaeth Iechyd er mwyn lleihau rhestrau aros, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Daw hyn ar ôl i fuddsoddiad o £100m dros y ddwy flynedd ddiwetha’ arwain at leihau maint y rhestrau aros mewn byrddau iechyd ledled Cymru.

Mi fydd y gronfa gwerth £30m ar gael i leihau amseroedd aros ymhellach erbyn mis Mawrth 2019, ond ni fyddan nhw’n derbyn y cyllid yn llawn nes eu bod nhw wedi cyflawni eu targedau.

Lleihau’r rhestrau

“Mae’r cyllid ychwanegol hwn ar gael i fyrddau iechyd er mwyn eu helpu i leihau amseroedd aros mewn meysydd sydd o dan bwysau,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

“Yn ddiweddar, cyhoeddais ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, sef Cymru Iachach, gyda £100m o gymorth i drawsnewid y ffordd y caiff y gwasanaeth ei ddarparu yn y dyfodol.

“Ond, yn y tymor byr i’r tymor canolig, mae angen i ni ganfod ffyrdd newydd o leihau amseroedd aros i gleifion sydd eisoes wedi aros yn hirach na’n targedau.”