Mae Heddlu’r Trallwng wedi lansio ymchwiliad ar ôl i ddyn ddwyn gwerth tua £2,800 o gadwynau aur o siop yn y dref.

Fe ddigwyddodd y lladrad yn Welshpool Jewellers ar y stryd fawr am 3pm ddydd Llun, 12 Medi.

Roedd dyn wedi mynd i mewn i’r siop ac wedi gofyn am weld  cadwynau aur. Ar ôl i aelod o staff fynd i nôl y cadwynau a’u gosod ar y ddesg, fe redodd y dyn i ffwrdd gyda’r cyfan.

Fe ddywedodd yr heddlu eu bod yn chwilio am ddyn tua 25 mlwydd oed, tua phum troedfedd pum modfedd o daldra gyda thatŵ ar ochr dde ei wddf.

Roedd yn gwisgo crys t coch, trowsus tywyll, siaced olau ac yn siarad gydag acen Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Os oes gennych wybodaeth neu’n gallu helpu’r heddlu gyda’u hymchwiliad, cysylltwch â Stephen Vaughan yng ngorsaf heddlu’r Trallwng ar 101.