Mae cyn-olygydd y Carmarthen Journal yn dweud bod y penderfyniad i gau’r swyddfa yn nhref Caerfyrddin, yn mynd i “ladd” y papur wythnosol.
Daw’r sylwadau yn dilyn y cyhoeddiad gan gwmni Reach PLC (Trinity Mirror gynt) i beidio ag adnewyddu’r les ar eu swyddfa yng Nghaerfyrddin.
Fe fydd y chwech aelod o staff sy’n gweithio yno ar hyn o bryd yn gorfod naill ai symud i swyddfa’r cwmni yn Abertawe neu weithio o gartre’.
“Cylch marwol”
Yn ôl Robert Lloyd, a ddechreuodd ei yrfa ym myd newyddiaduriaeth gyda’r Carmarthen Journal ddiwedd y 1970au, mae’r penderfyniad diweddara’ hwn gan Reach PLC yn creu “cylch marwol” i’r papur newydd.
“Dw i ddim yn gwybod beth yw eu cynllun busnes, ond maen nhw’n rhan o gylch marwol i ladd y papur i ffwrdd,” meddai wrth golwg360.
“Beth sydd gennych chi nawr yw papur newydd sydd â thipyn o gynnwys cyffredinol, sy’n cael ei rannu â’r Evening Post, The Western Mail a’r Llanelli Star.
“Mae ganddyn nhw naw tudalen o’r hyn dw i’n ei ddisgrifio yn ddim ond fluff; pethau fel gwyliau, beauty tips a phethau sydd ddim yn berthnasol i gyhoeddiad da.”
“Rhan o’r gymuned leol”
Mae’r cyn-olygydd yn ychwanegu bod apêl y Carmarthen Journal wedi “dirywio o flwyddyn i flwyddyn” yn ystod y degawd diwetha’, ac y bydd cau’r swyddfa ddiwedd y mis yn cyfrannu at hynny ymhellach.
Mae’n dweud hefyd fod addewid Reach PLC i gynnal stondin ym marchnad Caerfyrddin un diwrnod yr wythnos yn “siomedig” iddo.
“Mae angen i bapurau newydd lleol fod yn rhan o’r gymuned leol. Mae ganddyn nhw ddyletswydd i ddweud wrth bobol beth sy’n digwydd yn eu cymunedau.
“Nid pawb sy’n cael newyddion trwy gyfrwng y we, y radio neu’r teledu, felly mae’r Journal yn darparu gwasanaeth gwerthfawr, ac mae’n siom fawr bod pethau wedi dod i hyn.”