Mae teulu merch fach bedair oed fu farw yn Nhrealaw yng Nghwm Rhondda wedi talu teyrnged iddi.

Bu farw Amelia Brooke Harris yn dilyn digwyddiad nos Wener, ac mae dynes 37 oed yn y ddalfa mewn perthynas â’i marwolaeth.

Mewn datganiad, dywedodd ei theulu ei bod hi’n “ferch, chwaer, wyres, gor-wyres, nith a chyfnither gariadus”, a’i bod hi’n “brydferth ar y tu mewn a’r tu allan, yn hwyliog, yn ofalgar ac yn ferch fach fywiog”.

‘Ei bywyd cyfan o’i blaen’

Dywedon nhw ei bod hi “wedi’i chipio oddi arnom yn rhy fuan o lawer” a bod ganddi “ei bywyd cyfan o’i blaen”.

“All geiriau ddim cyfleu sut rydyn ni’n teimlo ar hyn o bryd. Rydym yn gwybod na fydd ein bywydau’r un fath fyth eto.”

Mae’r teulu wedi gofyn am breifatrwydd, ond yn cydnabod fod “emosiynau’n ddwys ac wedi gofyn i bobol “ddangos parch” wrth bostio negeseuon ar wefannau cymdeithasol, lle mae cryn ddyfalu wedi bod ynghylch marwolaeth y ferch fach.

Mae’r teulu’n derbyn cefnogaeth gan yr heddlu ar hyn o bryd.