Mae Arweinydd Cyngor Gwynedd wedi dweud wrth golwg360 nad oes unrhyw sicrwydd y byddai uno cynghorau Gwynedd a Môn yn arwain at arbed arian.

Ddoe roedd cynghorwyr Môn yn mynegi gwrthwynebiad chwyrn i’r syniad o uno gyda’r cyngor sir agosaf ar y tir mawr.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar uno cynghorau sir Cymru er mwyn cael llai ohonyn nhw.

Ond mae’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd, wedi rhybuddio ei bod yn “hanfodol bwysig nad ydy unrhyw drafodaethau estynedig pellach am adrefnu llywodraeth leol yn ein dargyfeirio o’r nod [o] sicrhau’r gwasanaethau a’r gwerth am arian gorau i drigolion a chymunedau Gwynedd…

“Nid yw creu strwythurau newydd o anghenraid yn arwain at wella gwasanaethau nac at arbedion ariannol.

Rhybudd i Lywodraeth Cymru

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Beth bynnag a ddaw, mae angen eglurder ar y ffiniau rhwng gwaith Llywodraeth Leol a Llywodraeth Caerdydd a sicrhau fod yr atebolrwydd yn glir.

“Dylid atal y duedd gynyddol i ymyrryd yng ngwaith awdurdodau lleol. ‘Dyw’r hyn sy’n iawn yng Nghaerdydd ddim o anghenraid yn iawn yn lleol; dyna yw hanfod sylfaenol llywodraeth leol.”