Mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhoi dros £620,000 i nifer o gymunedau yng Nghymru ar gyfer datblygu prosiectau gwirfoddol.

Wrth gydnabod cyfraniad gwirfoddolwyr o fewn y gymuned, a hynny yn ystod Wythnos Wirfoddolwyr, mae’r Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi ei bod nhw wedi rhoi grantiau i 78 o gymunedau yn ystod y mis diwetha’.

Mae’r grantiau hynny, gwerth cyfanswm o £621,169, wedi dod o’r Gronfa Arian i Bawb, ac wedi’u rhoi i nifer o brosiectau sy’n amlygu gwaith gwirfoddolwyr.

Mae rhai o’r prosiectau hynny’n cynnwys:

  • £8,511 i Carmarthenshire Therapy Dogs i ehangu eu gwasanaethau a denu a hyfforddi mwy o wirfoddolwyr;
  • £9,967 i Family Action yng Nghaerdydd i hyfforddi gwirfoddolwyr ledled Cymru i gefnogi pobol â phroblemau iechyd meddwl;
  • £8,050 i Forest Upcycling Project yn Sir Fynwy ar gyfer gwella’u warws trwy waith gwirfoddol.

Dathlu cyfraniad gwirfoddolwyr

 “Mae’r Wythnos Wirfoddolwyr yn gyfle arall i ddathlu’r cyfraniad anhygoel y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i’w cymunedau,” meddai Gareth Williams, Rheolwr Ariannu Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol.

“Mae llawer o’r ceisiadau a dderbyniwn yma yn y Gronfa Loteri Fawr wedi’u hysgrifennu gan wirfoddolwyr.

“Y nhw yw hanfod prosiectau di-rif ledled Cymru ac felly ni fyddai llawer o’r prosiectau anhygoel a ariannwn yn bodoli hebddynt, felly diolch i chi i gyd ar ran y Gronfa Loteri.”