O heddiw ymlaen, mae disgwyl i gynghorau Cymru wella’r ddarpariaeth toiledau sydd ar gael yn eu hardaloedd.

Yn ôl Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd, mae ganddyn nhw flwyddyn i asesu anghenion eu cymunedau, ac i lunio strategaeth i wneud yn siŵr bydd gan y cyhoedd fwy o fynediad at y cyfleusterau.

Fe fydd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru), hefyd yn annog cynghorau i ddelio a’r broblem yma mewn modd “creadigol” – un opsiwn yw annog busnesau preifat i agor eu toiledau i’r cyhoedd.

Daw’r cam hwn yn sgil pryderon am awdurdodau lleol yn cau eu toiledau cyhoeddus.

Trafod

“Rwy’n disgwyl i’r awdurdodau lleol siarad â’r cyhoedd a grwpiau cynrychioliadol am yr heriau y maent yn eu hwynebu o ran dod o hyd i doiledau cyhoeddus,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

“Rwy’n disgwyl iddynt wrando ar eu pryderon, a’u cynnwys yn y broses o wella mynediad at doiledau yn eu cymunedau.”