Mae disgwyl iddi fod yn gynnes – a stormus, o bosib – dros benwythnos gwyl banc y Sulgwyn.

Bydd y tymheredd  yng Nghymru yn yr ugeiniau uchel, yn ol rhagolygon, ac fe allai gyrraedd 30 gradd Celsius mewn rhai ardaloedd o wledydd Prydain.

Yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban fydd y tywydd ar ei orau, yn ol y darogan, er ei bod hi’n argoeli am dywydd bendigedig yn Llundain.

Er hyn i gyd, mae yna “risg o stormydd difrifol” gyda glaw trwm a allai achosi trafferthion, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

“De a de ddwyrain [y Deyrnas Unedig] sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio,” meddai llefarydd. “Ond mae’n anodd dweud lle yn union fydd yn cael eu taro.”