Mae Gruffydd Wyn Roberts, y canwr 22 oed o Amlwch, wedi ennill ei le yn rowndiau byw Britain’s Got Talent ar ôl i’r beirniad Amanda Holden daro’r seiniwr aur yn y rhaglen a gafodd ei darlledu neithiwr.
Roedd y beirniaid i gyd ar eu traed wrth i’w fersiwn o Nessun Dorma ddirwyn i ben.
Ond fe gafodd e ddechrau sigledig ar ôl gorfod newid ei gân ar gais Simon Cowell – Un Giorno Per Noi oedd ei ddewis cyntaf, ac fe ganodd e am ychydig eiliadau cyn cael ei stopio.
Clywodd y beirniaid cyn ei berfformiad iddo gael ei fagu gan ei Nain, Alwena Roberts, ac nad oedd yn adnabod ei dad tan ei fod yn 16 oed.
Ymateb y beirniaid
Roedden nhw ar eu traed, a’i ffrindiau’n ei longyfarch ar y llwyfan ar ddiwedd ei berfformiad.
Dywedodd Alesha Dixon fod ganddo fe “rywbeth arbennig”, a’i bod hi eisiau iddo fe ennill.
Ychwanegodd Simon Cowell: “Pan alli di daro’r hoelen ar ei phen gyda’r gân honno mewn awyrgylch fel hyn gyda phopeth yn mynd trwy dy ben, rwyt ti’n haeddu beth gest ti nawr.”
Ar ôl taro’r seiniwr aur, dywedodd Amanda Holden: “Pan oeddet ti’n 10 oed a Paul Potts wedi dod am glyweliad ar y sioe ddeuddeg o flynyddoedd yn ôl, fe wnaeth ein syfrdanu ni gyda’r gân honno ac, O Dduw, fe wnest ti’r un fath.”