Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth i helpu cael hyd i lanc 17 oed o ardal Cwmbran sydd ar goll.

Mae Ahmet Cenaj yn hanu o Albania, a chaiff ei ddisgrifio fel dyn gwyn 5’10”/5’11” o daldra, tenau, â gwallt byr ac o bosibl yn gwisgo siaced lwyd.

Nid yw wedi cael ei weld ers dydd Iau 3 Mai ac mae’r heddlu’n bryderus am ei ddiogelwch.

Maen nhw’n gofyn i unrhyw un â gwybodaeth eu ffonio ar 101 gan nodi cyfeirnod 02 03/05/18.