Mae Cadw wedi cyhoeddi y bydd Castell Caergwrle yn ymuno â degau o gestyll sydd dan eu gofal.

Dyma’r castell newydd cyntaf i Cadw – gwasanaeth cadwraeth Llywodraeth Cymru – ei brynu ers 25 mlynedd, a hwn fydd 43ydd castell y corff.

Mae Castell Caergwrle, yn Sir y Fflint, ac yn dyddio’n ôl i 1277, pan gafodd ei adeiladu’n gyntaf gan Dafydd ap Gruffudd.

Hwn yw’r castell olaf i gael ei adeiladu gan dywysog o Gymru, a bu iddo chwarae rhan bwysig yn y digwyddiadau a ddaeth i ben gyda marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd – neu Llywelyn Ein Llyw Olaf.

“Ar agor i bawb”

“Mae Cadw eisoes yn gofalu am nifer o gestyll tywysogion Cymru, gan gynnwys Dinefwr a Dryslwyn yn y de a Dolbadarn a Chastell y Bere yn y gogledd,” meddai’r Gweinidog Twristiaeth a Diwylliant, Dafydd Elis-Thomas.

“Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu gweithio gyda chyngor y gymuned i ychwanegu Caergwrle at eu niferoedd – gan sicrhau ei fod yn parhau ar agor, bod rhywun yn gofalu amdano a’i fod ar agor i bawb.”