Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gorff dyn wrth chwilio am Barry Lester, 41 oed o Borth Tywyn.
Cafwyd hyd i’r corff ddydd Sadwrn, ond dydy e ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol hyd yn hyn.
Mae Barry Lester ar goll ers dydd Sul diwethaf (Mai 6).
Mae ei deulu a’r crwner wedi cael gwybod.