Mae’r ffigyrau diweddaraf am arferion yfed pobol gwledydd Prydain, yn awgrymu bod y Cymry’n fwy cyndyn i feddwi na chenhedloedd eraill.

Roedd hanner y Cymry a gafodd eu holi gan y Swyddfa Ystadegau wedi yfed yn ystod yr wythnos flaenorol, o gymharu â 53.5% o Albanwyr, a 57.8% o Saeson.

Yn ogystal, doedd dim un rhanbarth yn Lloegr lle’r oedd llai o awch am alcohol nag yng Nghymru. Ond, er hynny, mae’r Cymry sy’n yfed, yn gwneud hynny i’r eithaf.

Yn ol yr ystadegau, mae 30.4% o Gymry yn goryfed – yfed binge – ar eu diwrnod trymaf, tra bod 37.3% o Albanwyr yn gwneud hynny, a 26.2% o Saeson.

Canfyddiadau eraill

  • O bob grŵp oedran, pobol 16-24 blwydd oed sydd lleiaf tebygol o yfed
  • A phobol 45-64 blwydd oed sydd fwya’ tebygol
  • Mae dynion yn fwy tebygo o yfed na menywod
  • Ers 2005 mae fwyfwy o bobol 16-44 blwydd oed wedi bod yn cefnu ar alcohol

Cafodd yr ystadegau eu casglu yn 2017, ond ni chafodd pobol Gogledd Iwerddon eu holi.