Cafodd ci a dwy ferch eu hachub o dir cors ar lannau afon Nedd nos Sadwrn.
Aethon nhw i drafferthion toc cyn 7 o’r gloch, a chael eu hachub ddwy awr a hanner yn ddiweddarach.
Roedd timau achub o Bort Talbot a Phorth Tywyn yn rhan o’r ymdrechion.
Dywedodd llefarydd fod y plant yn “ddiogel ond yn oer”.