Mae’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, wedi cadarnhau y bydd yn ymgeisio i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru.
Ef yw’r ymgeisydd cyntaf i daflu ei het i’r cylch, ond mae disgwyl y bydd sawl un o’i gyd-weinidogion yn Llywodraeth Cymru yn datgan diddordeb yn ystod y dyddiau nesaf.
Daw’r cyhoeddiad wedi i Carwyn Jones ddatgelu ei fwriad i gamu o’r neilltu yn ystod cynhadledd y Blaid Lafur yn Llandudno dros y penwythnos.
Yn siarad ar BBC Wales fore heddiw, mae’r Aelod Cynulliad wedi canmol Carwyn Jones am wneud “job dda dros cyfnod hir iawn” ym Mae Caerdydd.
Dywedodd bod angen i’r blaid “droi at y chwith” ac y byddai’n dod â “set radical o syniadau” er mwyn sicrhau “cymdeithas deg a chyfartal, fydd yn ffynnu.”