Mae ymchwiliad annibynnol yn dweud yn bendant nad oedd y Prif Weinidog Carwyn Jones wedi camarwain y Cynulliad adeg marwolaeth Carl Sargeant ac nad oedd achosion na hanes o fwlio ar goridor Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn 2014.

Yn ôl yr arolygydd, James Hamilton, doedd dim tystiolaeth fod cwynion o fwlio wedi eu gwneud i’r Prif Weinidog na phennaeth y Gwasanaeth Sifil cyn i Carwyn Jones ateb cwestiynau yn y Cynulliad ym mis Tachwedd 2014.

“O ganlyniad,” meddai yn ei adroddiad, “roedd yr atebion a roddodd y Prif Weinidog y pryd hwnnw yn eirwir a doedden nhw ddim yn camarwain y Cynulliad.”

Bwlio – ‘dim tystiolaeth’

Mae’r adroddiad yn dweud hefyd nad oedd “tystiolaeth argyhoeddiadol” o honiadau am “awyrgylch gwenwynig” a diwylliant bwlio ar goridor y Gweinidogion … hyd yn oed os oedd ambell awgrym yn wir, meddai James Hamilton, doedden nhw ddim yn ddigon i fod yn fwlio.

Fe gafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ar ddiwedd diwrnod tymhestlog yn y Cynulliad ac mae’r penderfyniad i’w gyhoeddi heb ei ailolygu o gwbl yn wahanol iawn i agwedd y Llywodraeth at yr adroddiad sydd wedi arwain at ymrafael cyfreithiol rhwng y Llywodraeth a’r Cynulliad.

Mae’n ymddangos y gallai swyddfa Carwyn Jones benderfynu galw am adolygiad barnwrol i geisio rhwystro dadl rhag digwydd yn y Cynulliad fory (dydd Mercher) – byddai honno’n galw am gyhoeddi adroddiad am ollwng gwybodaeth gyfrinachol yn achos Carl Sargeant.

‘Cyhoeddwch yr adroddiad arall,’ meddai’r Ceidwadwyr

Tynnu sylw at y gwahaniaeth a wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr heno, gan groesawu cyhoeddi adroddiad James Hamilton ac awgrymu ei fod yn gosod esiampl o ran yr adroddiad arall hefyd.

“Fydd unrhyw ymgais i atal ei gyhoeddi yn gwneud dim ond arwain at ragor o ddyfalu di-fudd am y broses a’i gynnwys,” meddai, “a byddem yn awr hyn disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi adroddiad yr ymchwiliad i ollwng gwybodaeth ar unwaith.”