Bydd dau wasanaeth bysiau sy’n cysylltu pentrefi cyfagos â thref Porthmadog yn dychwelyd  yr wythnos nesa’, wedi i drigolion y fro fod hebddyn nhw am dri mis a mwy.

O Ebrill 16 ymlaen mi fydd gwasanaeth sy’n cysylltu Abermaw a Phorthmadog, a’r gwasanaeth rhwng Morfa Bychan, Borth y Gest a Phorthmadog yn ailddechrau.

Cafodd y gwasanaethau yma eu dileu yn dilyn penderfyniad y Comisiynydd Traffig i gael gwared ar drwydded darparwyr y siwrnai, cwmni Express Motors Penygroes.

Mae Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dafydd Meurig, yn “hynod falch” bod y gwasanaeth yn dychwelyd.

“Calonogol iawn”

“Rydan ni wedi bod heb wasanaeth bws ers tri mis a hanner. Felly mae hyn yn newyddion calonogol iawn,” meddai Cadeirydd Cyngor Tref Porthmadog, Dr Seimon Brooks, wrth golwg360.

“Hoffwn ddiolch i Gyngor Gwynedd am gael y gwasanaeth yn ôl. A dw i’n falch bod pobol yn medru teithio yn ôl ac ymlaen o Port a phentrefi cyfagos.

“Mae hynna’n ardderchog. Bydd hynna’n helpu pobol o ran cyflogaeth, o ran mynd i’r doctor, siopau ac yn y blaen. Felly, yndi mae o’n newyddion da iawn.”