Mae mwy nag un o bob pump o gleifion Cymru yn ei chael hi’n anodd i weld meddyg teulu, yn ôl arolwg swyddogol newydd.
Mae hynny’n gynnydd sylweddol ar y ffigurau bedair blynedd yn ôl ac mae’r broblem hyd yn oed yn waeth mewn ardaloedd dinesig.
Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru, y rhai sy’n ei chael hi hawsa’ i gael apwyntiad yw pobol sy’n byw mewn ardaloedd gwledig anghysbell.
Dyma’r ffigurau
- Mae 21% yn ei chael hi’n“anodd iawn” i wneud apwyntiad â meddyg teulu
- Yn 2012-2013, dim ond 15% oedd yn dweud hynny.
- Mewn ardaloedd dinesig mae 23% o bobol yn cael trafferth gwneud apwyntiad
- Ond mae’r ganran llawer yn is mewn ardaloedd gwledig anghysbell – 12%
Fe gafodd ffigurau Arolwg Cenedlaethol Cymru eu casglu rhwng 2016 a 2017 trwy gyfweliadau â 10,493 o bobol.
Ymateb y Llywodraeth
“Rydym wrthi’n gweithio â’r GIG (Gwasanaeth Iechyd Gwladol) a meddygon teulu, gyda’r nod o wneud hi’n haws cael gafael arnyn nhw,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru. “Daw hyn fel rhan o’n rhaglen o ddiwygio cytundebau a gwasanaethau.”