Mae pennaeth heddlu yn bwriadu cyflwyno cwyn am golofnydd The Sunday Times, Rod Liddle, i warchodwr safonau’r diwydiant papur newydd oherwydd ei safbwyntiau “moesol atgas” am y Gymraeg a phobol Cymru.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones wedi derbyn llu o gwynion am sylwadau Liddle mewn perthynas â’r cynllun dadleuol i ailenwi ail Bont Hafren yn ‘Bont Tywysog Cymru’.
Yn ôl Mr Jones, mae’r cwynion yn ei flwch e-bost ac ar y cyfryngau cymdeithasol wedi dod gan bobol o bob plaid wleidyddol, a gafodd eu ffieiddio gan sylwadau “sarhaus ac anghyfrifol” y colofnydd.
Datgelodd y byddai’n annog Sefydliad Safonau Annibynnol y Wasg (IPSO), i gymryd camau yn erbyn Liddle a’r Sunday Times.
Mae’r cynllun i ailenwi’r bont wedi ysgogi gwrthwynebiad enfawr ac mae deiseb yn gwrthwynebu’r syniad wedi denu 30,000 o enwau, gydag arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ymhlith y beirniaid mwyaf chwyrn.
Dim trosedd
“Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cynnal asesiad ac wedi dod i’r casgliad nad oes trosedd wedi digwydd,” meddai Arfon Jones. “Fodd bynnag, nid yw hynny’n newid y ffaith bod y safbwyntiau a fynegwyd yn y Sunday Times yn foesol atgas ac yn hollol warthus.
“Mae’r bobol sydd wedi cysylltu â mi yn dod o bob plaid wleidyddol. Beth bynnag fo’u teyrngarwch bleidiol, maen nhw’n dweud gydag un llais, pe bai’r erthygl hon wedi’i hysgrifennu mewn perthynas â phobol Iddewig, neu unrhyw hil arall, byddai’n cael ei gweld yn gwbwl gyfiawn fel rhywbeth hollol annerbyniol.
“Am ryw reswm, mae yna ddosbarth o bobol wawdlyd yn Llundain yn credu bod sarhau Cymru’n dderbyniol.
“Rwy’n cytuno fod ei agwedd ‘shock jock’ at newyddiaduraeth yn sarhaus ac anghyfrifol,” meddai Arfon Jones wedyn. “Byddaf yn cyflwyno cwyn i’r IPSO, a byddaf yn annog eraill i wneud hynny.
“Rhaid i ni herio ymddygiad o’r fath a pheidio ei anwybyddu.”
Y golofn
Mae Rod Liddle, sy’n gyn-olygydd rhaglen Today ar Radio 4, wedi ei gondemnio’n eang ar ôl iddo ymuno yn y ffrae.
Yn ei golofn, ysgrifennodd: “Mae’r Cymry, neu rai ohonynt, yn cwyno bod pont traffordd sy’n cysylltu eu cymoedd glawog gyda’r Byd Cyntaf i’w hailenwi yn Bont Tywysog Cymru. Er mwyn anrhydeddu’r etifedd i’r orsedd llwgr, ariangar, gorffwyll (os yw bywgraffiad newydd Tom Bower yn gywir).
“Mae’r ddynes Plaid Cymru yna sydd ar Question Time byth a hefyd wedi bod yn arwain y protestiadau. Byddai’n well ganddyn nhw alw’r bont yn rhywbeth annealladwy heb unrhyw lafariaid go iawn, fel Ysgythysggymlngwchgwch Bryggy.
“Gadewch iddyn nhw gael eu ffordd. Cyn belled â’i bod yn caniatáu i bobl fynd allan o’r lle cyn gynted â phosib, a ddylem ni boeni am enw’r bont? “
Hyd yma mae dros 1,000 o bobol wedi ymateb ar Twitter i golofn Mr Liddle, gyda rhai yn ei alw’n “hiliol” a “gwarthus”.