Mae’r Annibynwyr Cymraeg wedi galw ar i Gristnogion “weithredu gobaith tragwyddol yr Atgyfodiad” yn eu neges ar Sul y Pasg.

Dylid gwneud hyn, meddai’r neges, “drwy ymdrechu i leddfu amgylchiadau arswydus cymaint o bobol heddiw”.

Cafodd y neges ei chyflwyno ar ran un o enwadau Anghydffurfiol mwyaf Cymru gan Dafydd Roberts.

Mae’r Annibynwyr Cymraeg yn addoli mewn 400 o gapeli ledled Cymru.

‘Proses barhaus’

Dywed eu neges: “Gallwn weld y Croeshoelio a’r Atgyfodiad fel rhan o broses barhaus – proses sy’n arwain o greulondeb ac anobaith i obaith annisgwyl.

“Rhaid i ni estyn gobaith Sul y Pasg i’r trueiniaid sy’n byw yng nghysgod arswyd Calfaria, boed hynny’n rhyfel, yn newyn neu’n ddioddefaint o unrhyw fath, trwy weddi a thrwy gyfrannu at elusennau sy’n gweithio mewn gwledydd anodd a pheryglus – fel Syria a’r Yemen.

“Rhaid i ni beidio â defnyddio ymddygiad gwael rhai unigolion a fu’n gweithio i elusennau fel esgus i roi’r gorau i gyfrannu tuag at y gwaith hanfodol o helpu i gynnal bywydau miliynau o blant ac oedolion mewn sawl rhan o’r byd. Dyna ein gobaith ni iddynt yn eu harswyd.”