Mae Heddlu Dyfed-Powys yn “gofidio” am ddynes o Sir Gaerfyrddin sydd ar goll.

Mae Anne Louise Andrew, 58 oed, o ardal Llanddeusant, yn cael ei disgrifio fel dynes sydd â gwallt hir llwyd-olau.

Mae lle i gredu ei bod yn gwisgo siaced goch tywyll, trowsus glas tywyll, a welingtons gwyrdd.

Mae bron yn 6 troedfedd o ran taldra hefyd.