Fe ddaeth cadarnhad gan Heddlu Dyfed Powys nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r ymchwiliad i farwolaeth ferch ddwyflwydd oed yn afon Teifi ddoe (dydd Llun, Mawrth 19).
Bu farw Kiara Moore o Landysul ar ôl cael ei hachub o gar yn Aberteifi a’i chludo i’r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd.
Mewn neges Facebook brynhawn heddiw, mae tad y ferch fach, Jet Moore, wedi awgrymu fod Kiara wedi marw ar ôl i’r car yr oedd hi’n teithio ynddo lithro i ddyfroedd afon Teifi.
Mae’n honni fod y ferch fach wedi cael ei gadael y tu mewn i’r car tra bod y gyrrwr yn casglu arian o swyddfa gerllaw. Ond pan ddychwelodd y gyrrwr, roedd y car wedi diflannu – a’r gred oedd fod y car wedi’i ddwyn.
Canfuwyd y car yn y dŵr bron i ddwyawr yn ddiweddarach, gyda Kiara yn dal i eistedd ynddo.
Yn ôl ei thad, roedd Kiara “yn ferch ifanc, anhygoel o hapus, a oedd yn byw bywyd anturus, llawn hwyl.”