Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau a fydd yn paratoi Cymru ar gyfer y cam nesaf o arloesi digidol.
Mae Ysgrifennydd yr Economi ym Mae Caerdydd, Ken Skates, wedi gorchymyn adroddiad a fydd yn edrych ar arloesi digidol, a fydd hefyd yn ystyried sut y gall Cymru elwa ohono.
Mi fydd yr adolygiad yn cael ei arwain gan yr Athro Phil Brown, Athro Ymchwil yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, ac fe fydd yn cael ei weithredu yng nghyd-destun Cynllun Gweithredu ar yr Economi gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r cynllun hwn, a gafodd ei gyhoeddi fis Rhagfyr y llynedd, yn cydnabod cysylltiad rhwng awtomatiaeth, deallusrwydd artiffisial a mathau eraill o ddigideiddio, gan ystyried hefyd sut y gall y meysydd hyn effeithio ar economi Cymru – ei gwasanaethau cyhoeddus a strwythur ei marchnad lafur.
“y sefyllfa orau bosibl”
Yn ôl Ken Skates, mae’n benderfynol o sicrhau bod Cymru yn y “sefyllfa orau bosibl” ar gyfer y cam nesaf o arloesi digidol a data.
Dywed hefyd y bydd yr adolygiad yn helpu i “baratoi” yr economi ar gyfer y dyfodol; dangos pa sgiliau newydd sydd angen ar weithwyr; creu swyddi, ynghyd â dangos i Gymru yr hyn sy’n dangos yn rhyngwladol ym meysydd digidol.
“Bydd yr adolygiad hwn yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o’n helpu i greu economi sy’n barod at y dyfodol, gan roi’r dystiolaeth, yr wybodaeth a’r ymchwil diweddaraf i ni a phennu’r cyfleoedd a’r heriau sydd ynghlwm wrth y sector hwn sy’n prysur dyfu,” meddai.
Mae disgwyl i adroddiad interim gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni, gyda’r adroddiad terfynol yn ystod chwarter cyntaf 2019.