Y Mwmbwls yn Abertawe yw’r lle gorau i fyw yng Nghymru yn ôl papur The Sunday Times.

Wrth esbonio’i dewis, mae’r papur yn canmol y lle am ei siopau, cyflymder mynediad at y We yno, ynghyd â’r ymdeimlad o gymuned sydd yno.

Mae 10 pentref a thref o Gymru ar y rhestr ‘Llefydd Gorau i Fyw ym Mhrydain 2018’… roedd 12 arno’r llynedd.

Y Bont-faen ddaeth i’r brig yn 2017, ond eleni nid yw’r dref ar y rhestr o gwbl.

Mae’n debyg mai’r Fenni, Trefynwy, Abersoch a Phenarth yw’r unig leoliadau yng Nghymru i’w cynnwys ar y rhestr am ddwy flynedd yn olynol.

Y lleoliadau yng Nghymru:

  • Y Mwmbwls
  • Y Fenni
  • Abersoch
  • Tregolwyn
  • Talacharn
  • Trefynwy
  • Penarth
  • Llanandras
  • Llanussyllt
  • Tŷ Ddewi