Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu cynlluniau i hyfforddi athrawon fel eu bod yn medru cynorthwyo disgyblion sydd wedi wynebu profiadau trawmatig.
Yn ôl llefarydd Addysg y blaid, Darren Millar, mae yna “groeso mawr” i’r cynlluniau gan fod trawma yn medru cael effaith “dwfn” ar blant.
“Mae llawer o waith da yn cael ei gyflawni o gwmpas y byd i droi ysgolion yn llefydd diogel, sydd yn medru helpu plant i iacháu,” meddai.
“Rhaid i ni fanteisio ar yr arbenigedd yna, a sicrhau bod athrawon yn cael eu hyfforddi i ddeall a delio gydag effeithiau’r profiadau.”
Daw’r cyhoeddiad am y cynlluniau yn sgil prosiect peilot mewn tair ysgol gynradd yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr.