Mae 34 o gymunedau yng Nghymru’n dathlu ar ôl cael siâr o grantiau gwerth  £277,412 gan y Gronfa Loteri Fawr.

Ac mae’r pwyslais wrth wario’r arian ar helpu merched.

“Gyda’r Diwrnod Menywod Rhyngwladol ddoe yn taflu goleuni byd-eang ar hawliau menywod roeddem am ffocysu ar brosiectau i daclo problemau sy’n effeithio ar fenywod yn benodol, wrth gwrs bydd llawer o’r grantiau eraill y mis yma o fudd i ferched a menywod fel rhan o’r gymuned ehangach hefyd,” meddai’r Rheolwr Ariannu, Gareth Williams.

Ymhlith y prosiectau fydd yn cael cefnogaeth, bydd Grŵp Eiriolaeth Women Seeking Sanctuary Wales sy’n cael grant o £9,140 tuag at gefnogi menywod sy’n ffoaduriaid a’u teuluoedd, trwy ddatblygu rhwydwaith o wirfoddolwyr a mentoriaid sydd wedi goresgyn heriau tebyg i helpu adeiladu hyder a datblygu sgiliau newydd.

Hefyd yn debyn grant gwerth £10,000 y mae Clwb Nofio BME Water Friends yng Nghaerdydd sy’n darparu gwersi nofio a sesiynau ymwybyddiaeth iechyd ar gyfer menywod o grwpiau du a lleiafrifoedd ethnig.

Yn Abertawe, dyfarnwyd £9,804 i Women’s Learning and Development Cymru i ddarparu hyfforddiant, gyda rhai cyrsiau’n arwain at achrediadau, i helpu menywod o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig, sipsiwn, teithwyr a mudwyr i wella’u sefyllfa a dod o hyd i waith.